Ni fydd yr enillwyr yn cael eu dethol tan fis Rhagfyr, ac fel oedd yr achos y llynedd aelodau'r panel fydd yn gwneud yr enwebu a dewis yr enillwyr. Serch hynny, os dymunwch gynnig awgrymiadau iddynt ynglŷn â pha bostiadau/flogiadau/erthyglau arlein dylan nhw ystyried, gellwch wneud hynny fan hyn. Nodwch:
Edrychwch ar yr enwebiadau a wnaeth y panel y llynedd i gael syniad o'r hyn y maent yn chwilio amdani.
Ceisiwch esbonio pam dylai'r panel ystyried enwebu'r post/erthygl dan sylw.
Mae unrhyw bost neu erthygl sy'n berthnasol i wleidyddiaeth Cymru ac sydd wedi cael ei gyhoeddi arlein ers enwebiadau 2008 yn ddilys.
Bathodynnau newydd
Bydd bathodynnau newydd (llai eu maint) yn cael eu creu ar gyfer enillwyr 2009 ac enillwyr 2008.
06/09/2009
Subscribe to:
Posts (Atom)